Scroll down for Welsh version
EASTN-DC Cardiff’s first Artists in Residence will arrive in October from Germany. Carolin Liebl and Nikolas Schmid-Pfähler are a team of two artists working with robotics and kinetic sculptures since 2012. Their work is playful yet technologically ambitious and well crafted. I met them in 2018 as fellow artists in And the Things We Do group show in Azkuna Zentroa, Bilbao Spain where they exhibited their intriguing flexible robots Vincent and Emily.

Carolin and Nikolas will be based in the FabLab at Cardiff Metropolitan University where they will spend 3 weeks making a new robotic installation.
Biography:
Carolin Liebl and Nikolas Schmid Pfähler completed their art studies as a duo and with distinction at the University of Art and Design Offenbach am Main in 2017. In August 2018 they presented their second solo exhibition “WIR|ES” at the “CADORO – Centre for Art and Science”, Mainz. Their most recent group exhibitions include the “International Meeting of New Artistic Forms” at Azkuna Art Center in Bilbao, Spain (2018), the “Robotics – Festival of Art and Robotics” in Trieste, Italy (2018), the exhibition “inter_nal movements”, which was created as part of an artist-in-residence stay in 2018 at the Espronceda Center for Art & Culture in Barcelona, Spain, and the WRO Biennale in the National Museum Wroclaw, Poland (2017).
============ Welsh • Cymraeg ===============
Artistiaid Preswyl Cyntaf yn dod yn fuan
Bydd Artistiaid Preswyl cyntaf EASTN-DC Caerdydd yn cyrraedd ym mis Hydref o’r Almaen. Mae Carolin Liebl a Nikolas Schmid-Pfähler yn dîm o ddau artist sy’n gweithio gyda roboteg a cherfluniau cinetig er 2012. Mae eu gwaith yn chwareus ond eto’n uchelgeisiol yn dechnolegol ac wedi’i grefftio’n dda. Cyfarfûm â hwy yn 2018 fel cyd-artistiaid yn sioe grŵp And the Things We Do yn Azkuna Zentroa, Bilbao Sbaen lle buont yn arddangos eu robotiaid hyblyg diddorol Vincent ac Emily.

Bydd Carolin a Nikolas wedi’u lleoli yn y FabLab ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd lle byddant yn treulio 3 wythnos yn gwneud gosodiad robotig newydd.
Bywgraffiad:
Cwblhaodd Carolin Liebl a Nikolas Schmid Pfähler eu hastudiaethau celf fel deuawd a chyda rhagoriaeth ym Mhrifysgol Celf a Dylunio Offenbach am Main yn 2017. Ym mis Awst 2018 fe wnaethant gyflwyno eu hail arddangosfa unigol “WIR|ES” yn y “CADORO – Canolfan ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth”, Mainz. Mae eu harddangosfeydd grŵp diweddaraf yn cynnwys “International Meeting of New Artistic Forms” yng Nghanolfan Gelf Azkuna yn Bilbao, Sbaen (2018), “Robotics – Festival of Art and Robotics” yn Trieste, yr Eidal (2018), yr arddangosfa “internal movements”, a grewyd fel rhan o arhosiad artist preswyl yn 2018 yng Nghanolfan Celf a Diwylliant Espronceda yn Barcelona, Sbaen, a Biennale WRO yn Amgueddfa Genedlaethol Wroclaw, Gwlad Pwyl (2017).