Rhwydwaith yw EASTN-DC, y Rhwydwaith Celf-Gwyddoniaeth-Technoleg Ewropeaidd ar gyfer Creadigrwydd Digidol (EASTN-DC), sy’n ymroddedig i’r celfyddydau digidol sy’n seiliedig ar amser: y celfyddydau cerddorol, y celfyddydau gweledol, a’r celfyddydau perfformio a rhyngweithiol.
Mae’n bleser gan Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fod yn un o’r partneriaid yn y prosiect mawr 4 blynedd hwn a ariennir gan gyllid Ewropeaidd. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar sut y gall ymchwilwyr ac academyddion, artistiaid a dylunwyr, busnesau a’r cyhoedd gael y budd mwyaf posibl o ddatblygiad cyflym technoleg ddigidol drwy archwilio a chydweithio. Mae’n ymwneud ag ysbrydoli’r cyhoedd a busnesau ynglŷn â sut y gall technoleg ddigidol fod yn ddefnyddiol ac yn berthnasol drwy fentrau creadigol y tîm prosiect yn YGDC.
Dros bum mlynedd, bydd tîm prosiect YGDC yn gweithio’n unigol a chydag Artistiaid a Phobl Greadigol Preswyl gwadd ar gyfres o brosiectau cyffrous, gan wahodd y cyhoedd i’r Ysgol i brofi a rhannu eu syniadau, gan ddiweddu â gŵyl ym mis Mawrth 2022
Mae arweinydd y prosiect, Dr Alexandros Kontogeorgakopoulos, yn gerddor ac yn artist sy’n cynnal ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn creu gwaith ar groestoriad celf, gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae Ingrid Murphy’n seramegydd sy’n gweithio gyda phrosesau gwneuthur digidol, Dylunio 3D, cerflunio a realiti estynedig. Artist perfformio a chelf y cyfryngau yw Paul Granjon sy’n gweithio gyda pheiriannau y’u gwnaeth ei hun. Mae Dr Jon Pigott yn creu cerfluniau sain, celf sain a chelfyddyd symudol ac yn ymchwilio i brosesau materol, gwneuthur digidol a systemau electronig. Mae ymchwil Dr Martyn Woodward yn archwilio’r berthynas gymysgedig rhwng profiad dynol, byd creëdig/dyluniedig arteffactau a’r hyn y gellid ei alw’n fyd ‘annynol’ mater a deunyddiau.
Yn ystod y prosiect, bydd y tîm yn rhannu eu gwybodaeth â myfyrwyr, staff ac ymwelwyr i YGDC, yn ogystal â phartneriaid y prosiect ledled Ewrop, yn UDA, Canada a Brasil, ac yn defnyddio cyfleusterau technegol helaeth YGDC, gan gynnwys FabLab Caerdydd.
Ynglŷn â rhwydwaith EASTN-DC
Sefydlwyd rhwydwaith EASTN 5 mlynedd yn ôl ac fe nododd ddiffyg rhyngweithio a chydweithredu rhwng ymchwilwyr, pobl greadigol, addysgwyr a chyfathrebwyr sy’n gweithio ym maes technoleg ddigidol.
Lansiwyd EASTN-DC gyda’r nod o:
Greu synergedd rhwng ymchwilwyr, pobl greadigol, addysgwyr, cyfathrebwyr a llunwyr polisïau ar lefel Ewropeaidd.
Cynnig modelau newydd ar gyfer cydweithredu a chynhyrchu cynnwys digidol sy’n cysylltu Celf, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Sefydlu sylfaen gynaliadwy ar gyfer rhwydwaith Ewropeaidd mawr ym maes y celfyddydau digidol sy’n seiliedig ar amser.
To do this, EASTN-DC has gathered 16 partners in 13 different countries from Europe to the I wneud hyn, mae EASTN-DC wedi casglu 16 o bartneriaid mewn 13 gwlad wahanol o Ewrop i’r Americas at ei gilydd. Byddant yn cynnal ac yn cyfnewid tua 70 o grewyr mewn 16 digwyddiad rhyngwladol dros 4 blynedd. Bydd y rhain yn llunio dull newydd a systemig sy’n hyrwyddo rhannu gwybodaeth, dysgu a chreadigrwydd ledled eu sefydliadau, gyda byd diwydiant a’r cyhoedd. Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn un o’r partneriaid o’r UE.
Partneriaid y prosiect
Cydlynydd yr UE:
- ACROE, Grenoble, Ffrainc
Partneriaid Ymchwil yr UE:
- Grenoble INP, Grenoble, Ffrainc
- Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Caerdydd, Cymru
- ZKM, Karlsruhe, Yr Almaen
- MisoMusicPortugal, Lisboa, Portiwgal
- Prifysgol Ïonaidd, Corfu, Gwlad Groeg
- Prifysgol Aalborg, Copenhagen, Denmarc
- Y Coleg Cerdd Brenhinol yn Stockholm, Sweden
- iMAL, Brwsel, Gwlad Belg
- Ljudmila, Ljubjana, Slofenia
- SMAC de Romans, Romans-sur-Isère, Ffrainc
- Cuneo Conservatorio, Cuneo, Yr Eidal
- Prifysgol Manceinion, Manceinion, Lloegr
Partneriaid Ymchwil y tu allan i’r UE:
- Prifysgol Stanford, Stanford, UDA
- Prifysgol McGill, Montreal, Canada
- UFMG, Belo Horizonte, Brasil


